Interpreter on Wheels and Interpreter now – gwasanaethau iechyd meddwl i bobl fyddar

Statws Testun Cyflawn

Gwasanaethau cyfieithu ar y pryd o bell a chyfnewid fideo ar gyfer pobl fyddar sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Crynodeb

 

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar effeithiolrwydd clinigol a chosteffeithiolrwydd gwasanaethau cyfieithu ar y pryd o bell a chyfnewid fideo.  Adolygodd Grŵp Asesu HTW y pwnc hwn fel rhan o ymarfer blaenoriaethu ym mis Chwefror 2020, a daeth i’r casgliad na ddylid bwrw ymlaen â’r pwnc hwn ymhellach. Gellir ailedrych ar y pwnc hwn yn y dyfodol a’i addasrwydd ar gyfer asesiad llawnach.