Llawdriniaeth cadarnhau rhywedd

Statws Testun Cyflawn

Llawdriniaeth cadarnhau rhywedd ar gyfer pobl draws

Arbenigeddau:  Gwasanaeth llawdriniaeth y fron; LGBTQIA+; Wroleg

Crynodeb

 

Mae llawdriniaeth cadarnhau rhywedd (GAS), naill ai ar y frest neu ar yr organau cenhedlu, neu’r ddau, yn opsiwn triniaeth ar gyfer pobl draws. Ei nod ydy darparu cysondeb rhwng hunaniaeth ryweddol a ffurf gorfforol yr unigolyn. Bu ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru yn chwilio am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol a’r effeithiolrwydd o ran cost o fedru cynnig llawdriniaeth cadarnhau rhywedd ar gyfer pobl draws.

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a nodwyd ac ar yr ystod eang o weithdrefnau ac ymyriadau posibl, nid oedd Grŵp Asesu HTW yn gallu symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei Arfarnu, oherwydd barnwyd bod y cwmpas yn rhy fawr.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER519 05.2024