Cathetrau mewnwythiennol perifferol hyd hir
Statws Testun Cyflawn
Cathetrau mewnwythiennol perifferol hyd hir ar gyfer cleifion sydd â mynediad mewnwythiennol anodd
Canlyniad yr arfarniad
Dylai cathetrau mewnwythiennol ymylol hir (LPCs) wedi’u mewnosod dros nodwydd fod ar gael fel mater o drefn fel dewis arall yn lle cathetrau mewnwythiennol ymylol byr (SPCs) i bobl sydd â mynediad mewnwythiennol anodd y disgwylir i’w hangen am fynediad mewnwythiennol bara rhwng pedwar a 14 diwrnod. Mewn senarios eraill, mae LPCs yn dangos addewid ond nid yw’r dystiolaeth yn ddigonol i gefnogi eu mabwysiadu fel mater o drefn.
Mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai fod gan LPCs fantais dros SPCs o ran amser aros yn y corff a methiant cathetr. Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod LPCs dan anfantais o’u cymharu â chathetrau llinell ganol (MCs) o ran amser aros yn y corff a methiant cathetr, ond mae llai o sicrwydd yn y canfyddiad hwn.
Mae modelu economaidd yn awgrymu bod LPCs wedi’u mewnosod dros nodwydd yn gost-effeithiol ar gyfer cyfnodau triniaeth o bedwar i 14 diwrnod o’u cymharu â SPCs. Nid oedd cost-effeithiolrwydd LPCs o’u cymharu â MCs, neu o’u cymharu ag SPCs, dros gyfnodau triniaeth byrrach yn glir.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mewnosod cathetrau mewnwythiennol ymylol (PIVCs) yw’r driniaeth ymwthiol fwyaf cyffredin a gyflawnir mewn gofal iechyd acíwt, gyda thua 90% o gleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty angen PIVC. Gall mynediad mewnwythiennol anodd (DIVA) arwain at sawl ymgais i osod canwla, gan achosi poen ac anghysur. Gall defnyddio PIVCs hirach, sy’n amrywio o 6cm i 15cm o hyd (y cyfeirir atynt yma fel LPCs) leihau nifer y mewnosodiadau aflwyddiannus a gallant gael amseroedd aros yn y corff hirach na PIVCs byrrach.
Awgrymwyd y pwnc hwn i HTW drwy Wasanaeth Arloesi’r GIG.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae therapi mewnwythiennol (IV) yn ddull o roi meddyginiaeth, hylifau a maetholion yn uniongyrchol yn llif gwaed person. Mae’r dull hwn yn cynnwys gosod tiwb plastig mewn gwythiennau gan ddefnyddio nodwydd i dyllu’r croen a helpu i arwain y tiwb. Gall y tiwb gael ei alw’n “gathetr”, “llinell” neu “ganwla”. Caiff y nodwydd ei thynnu unwaith y bydd y tiwb yn ei le. Mae pen arall y tiwb wedi’i gysylltu i fag mawr sy’n cynnwys y feddyginiaeth, yr hylifau a/neu’r maetholion. IV ymylol yw’r mathau sy’n cael eu rhoi mewn gwythiennau ar ran isaf y fraich neu ar gefn y llaw.
Gall gosod cathetr IV fod yn brofiad poenus. I rai pobl, gall fod yn anoddach dod o hyd i wythïen addas neu osod y tiwb yn ei le. Gelwir hyn yn “fynediad IV anodd”. Gall fod yn anoddach gosod cathetr IV ar gyfer pobl sydd â nodweddion penodol, er enghraifft gwythiennau bregus. Gall hyn arwain at nife ro ymgeisiau i fewnosod IV gan wahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Cathetrau IV hir yw IV lle mae’r tiwb yn hirach nag arfer. Cynigir yr hyd ychwanegol i helpu i wneud mewnosod yn haws a gallai olygu y gall yr IV aros yn ei le am gyfnod hirach nag arfer. Byddai hyn yn golygu y dylai cleifion sydd â mynediad IV anodd orfod profi llai o ymdrechion i gael llinell IV wedi’i gosod a byddai angen ei newid am un newydd yn llai aml.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar gyfer cathetrau mewnwythiennol ymylol hir ar gyfer cleifion sydd â mynediad IV anodd. Dylai cathetrau mewnwythiennol ymylol hir (LPCs) fod ar gael fel mater o drefn fel dewis arall yn lle cathetrau mewnwythiennol ymylol byr (SPCs) ar gyfer pobl sydd â mynediad mewnwythiennol anodd y disgwylir i’w hangen am fynediad mewnwythiennol bara rhwng pedwar a 14 diwrnod.
Canllaw
GUI068 06.2025
Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR068 06.2025
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER539 05.2024 (superseded by EAR068 06.2025)