Monitro glwcos yn barhaus mewn amser real
Statws Testun Cyflawn
Monitro glwcos yn barhaus mewn amser real ar gyfer pobl sydd â diabetes math 1 a 2
Arbenigeddau: Endocrinaidd, maethol a metabolaidd
Crynodeb
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o fonitro glwcos yn barhaus mewn amser real ar gyfer pobl sydd â diabetes ac sydd angen inswlin.
Mae Monitro Glwcos yn Barhaus mewn amser real yn defnyddio synhwyrydd o dan y croen i asesu lefelau’r glwcos yn barhaus. Mae’r systemau hyn yn dangos y lefelau glwcos yn barhaus ar y sgrin, ac yn rhoi gwybod i’r defnyddiwr am unrhyw amrywiadau yn eu glwcos. Gellir lawrlwytho’r wybodaeth a ddangosir i gyfrifiadur neu ffôn clyfar hefyd.
Mae HTW wedi cyhoeddi canllaw yn y gorffennol yn argymell defnyddio’r ddyfais Monitro Glwcos yn Barhaus mewn amser real mewn menywod beichiog sydd â diabetes math 1, a daethpwyd o hyd i bedwar canllaw NICE ar ddiabetes. Roedd y rhain yn trafod oedolion sydd â diabetes math 1, oedolion sydd â diabetes math 2, diabetes yn ystod beichiogrwydd, a diabetes mewn plant a phobl ifanc, yn y drefn honno. Gan fod canllawiau wedi’u diweddaru ar gael gan NICE ar reoli diabetes, gan gynnwys defnyddio dyfais Monitro Glwcos yn Barhaus mewn amser real, penderfynodd Grŵp Asesu HTW nad oes angen canllaw newydd gan HTW. Gellir dod o hyd i ddolenni i’r canllawiau sydd ar gael yn yr adroddiad archwilio pwnc.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER620 01.2026