Monitro gofal cymunedol uwch yn y cartref, yn defnyddio systemau monitro di-wifr parhaus

Statws Testun Anghyflawn

Monitro arwyddion hanfodol ar gyfer gofal cymunedol uwch yn y cartref, yn defnyddio systemau monitro di-wifr parhaus

Crynodeb

 

Mae gofal cymunedol uwch yn y cartref, sydd yn cael ei alw’n wardiau rhithwir neu’n ysbyty yn y cartref hefyd, yn darparu gofal acíwt i bobl sy’n byw yn y gymuned, naill ai gartref neu yn eu lleoliad gofal cymunedol arferol, pan fyddent fel arall wedi cael eu derbyn i’r ysbyty, neu wedi aros yno. Gall monitro arwyddion hanfodol o bell fod yn elfen o wella gofal cymunedol uwch yn y cartref. Mae systemau monitro di-wifr parhaus (CWM) yn cynnwys y claf yn gwisgo synwyryddion di-wifr sy’n cyfathrebu arsylwadau o arwyddion hanfodol i blatfform digidol o bell, sy’n caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol fonitro statws y claf a derbyn rhybuddion os bydd dirywiad yng nghyflwr y claf.

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar ddefnyddio systemau monitro di-wifr parhaus i ddarparu gofal cymunedol uwch yn y cartref, mewn wardiau rhithwir, neu mewn rhaglenni ysbyty yn y cartref ar gyfer gofal acíwt. Ni wnaethom gynnwys monitro cyflyrau cronig.