Cyfnerthu’r nerfau ocsipwt
Statws Testun Cyflawn
Cyfnerthu’r nerfau ocsipwt ar gyfer trin cur pen clwstwr cronig anhydrin yn feddygol.
Arbenigeddau: System nerfol
Canlyniad yr arfarniad
Mae ysgogi’r nerfau ocsipwt yn dangos addewid ar gyfer trin cur pen clwstwr cronig anhydrin yn feddygol, ond does dim digon o dystiolaeth i gefnogi hyn fel mater o drefn.
Mae ansicrwydd ynghylch effaith therapiwtig ysgogi’r nerfau ocsipwt ar sail y dystiolaeth na ellir ei chymharu sydd ar gael, ac mae’n anodd amcangyfrif y canlyniadau economaidd. Argymhellir rhagor o ymchwil i ganfod effaith ysgogi’r nerfau ocsipwt ar amlder a difrifoldeb ymosodiadau cur pen clwstwr, ansawdd bywyd a goblygiadau o ran cost.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae cur pen clwstwr cronig yn fath prin o anhwylder cur pen sy’n peri symptomau difrifol ac anodd weithiau. Mae’r pyliau cur pen yn cael eu rheoli gydag ystod o wahanol gyffuriau. Mae cyfran fechan (rhwng 5% a 20%) o bobl sydd â chur pen clwstwr cronig yn anhydrin i driniaeth gan gyffuriau, ac mae’r bobl hyn yn dal i ddioddef o byliau o gur pen bob dydd neu bron bob dydd. Mae mewnblannu dyfais i ysgogi’r nerfau ocsipwt wedi cael ei gynnig fel ffordd o fodiwleiddio amlder a difrifoldeb ymosodiadau cur pen clwstwr nad ydynt yn ymateb yn dda i driniaeth cyffuriau.
Awgrymwyd y pwnc hwn drwy Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC). Mae’r mynediad presennol i ysgogi’r nerfau ocsipwt i gleifion cymwys yng Nghymru yn cael ei wneud drwy geisiadau cyllido cleifion unigol, ac yn cael eu hatgyfeirio i GIG Lloegr.
Crynodeb mewn iaith glir
Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru (HTW) ar dystiolaeth y gellir defnyddio ysgogi’r nerfau ocsipwt ar gyfer trin cur pen clwstwr cronig sydd ddim yn ymateb i driniaethau arferol.
Mae cur pen clwstwr cronig yn fath prin o gur pen, sy’n boenus iawn. Fel arfer, maen nhw’n cael eu trin trwy feddyginiaethau sy’n ceisio atal y cur pen neu drin y symptomau cur pen. Fodd bynnag, nid yw nifer fach o bobl yn ymateb i driniaeth.
Mae ysgogi’r nerfau ocsipwt yn cynnwys ysgogi’r nerfau ocsipwt yn electronig, sydd yng nghefn y pen. Mae ceblau sy’n cynnwys electrodau yn cael eu mewnblannu o dan y croen dros y nerfau ocsipwt. Mae’r ceblau wedi’u cysylltu â batri sydd fel arfer yn cael ei roi o dan y croen yn y frest. Mae’r ddyfais yn anfon pylsiau trydan ysgafn ar hyd y nerfau hyn, sy’n ceisio lleihau poen y cur pen.
Ar hyn o bryd, nid yw canllawiau HTW yn cefnogi’r broses o fabwysiadu ysgogi’r nerfau fel mater o drefn, gan nad oes digon o dystiolaeth i ddangos manteision y weithdrefn. Fodd bynnag, mae HTW yn cefnogi’r mynediad parhaus i ysgogi’r nerfau ocsipwt gan gleifion drwy’r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol (CCCU). Mae HTW yn argymell y dylid gwneud mwy o ymchwil.
Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR013 12.2019
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER062 09.2019 (wedi cael ei ddisodli gan EAR013 12.2019)