Offerynnau digidol ar gyfer rheoli iechyd y boblogaeth a phennu lefel risg

Statws Testun Cyflawn

Offerynnau digidol ar gyfer rheoli iechyd y boblogaeth a phennu lefel risg

Crynodeb

 

Mae’r offerynnau digidol ar gyfer rheoli iechyd y boblogaeth a phennu lefel risg wedi cael eu cynllunio fel rhan o ymgyrch i geisio darparu gofal ataliol yn hytrach na gofal adweithiol. Eu nod yw cyfyngu ar nifer yr achosion o glefydau cronig, a hyrwyddo a chynnal iechyd a lles.

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio offerynnau digidol ar gyfer rheoli iechyd y boblogaeth a phennu lefel risg.

 

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ganfuwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i’r cam arfarnu tystiolaeth.