Platfform digidol i gefnogi pobl hŷn gartref

Statws Testun Cyflawn

Platfformau digidol i bobl hŷn i’w cefnogi i fyw yn annibynnol a rheoli eu hunain yn y cartref

Crynodeb

 

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar blatfformau digidol aml-barth i’w defnyddio gan bobl hŷn, i gefnogi lles annibynnol a rheoli eu hunain yn y cartref. Mae’r parthau’n cynnwys amserlennu, atgoffa pobl i gymryd eu meddyginiaethau, dyddiaduron hwyliau a rhestri tasgau. Ar sail y dystiolaeth, penderfynodd Grŵp Asesu HTW i symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei arfarnu’n llawn.