Robotiaid digidol
Statws Testun Cyflawn
Robotiaid digidol i ddarparu gofal o bell
Arbenigeddau: Darparu a threfnu gwasanaethau iechyd
Crynodeb
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar ddefnyddio robotiaid i ddarparu gofal o bell, gan gynnwys i atgoffa pobl i gymryd eu meddyginiaethau, atgoffa am faeth/hydradu, ac i ddarparu swyddogaethau fideo-gynadledda neu gyfathrebu eraill i gadw pobl mewn cysylltiad â’i gilydd. At ddibenion yr adroddiad hwn, nid oeddem yn ystyried dyfeisiau neu robotiaid rhyngweithiol sy’n darparu gofal therapiwtig neu ymgysylltu artiffisial yn benodol, fel cymorth emosiynol neu ryngweithio cymdeithasol (gweler TER 337 am dystiolaeth ar ddyfeisiau therapiwtig rhyngweithiol i’w defnyddio mewn dementia).
Penderfynodd Grŵp Asesu HTW i beidio â datblygu’r pwnc ymhellach, gan nad oedd y sylfaen dystiolaeth yn ddigonol ar gyfer cynnal arfarniad llawn.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER338 04.2022