Systemau monitro glwcos yn y gwaed ar y pwynt gofal i drin hypoglycemia mewn babanod newydd-anedig

Statws Testun Cyflawn

Systemau monitro glwcos yn y gwaed ar y pwynt gofal i ddiagnosio a rheoli hypoglycemia mewn babanod newydd-anedig

Crynodeb

 

Un o’r problemau metabolaidd mwyaf cyffredin a hanfodol ar gyfer babanod newydd-anedig yw hypoglycemia. Mae’n aml yn asymptomatig, ac mae’n gallu arwain at niwed niwrolegol, trawiadau, niwed parhaol a marwolaeth os nad yw’n cael ei drin. Felly, mae ei ddiagnosio a’i reoli’n gynnar yn hollbwysig.

Bu ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru yn chwilio am dystiolaeth ar effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd systemau monitro glwcos yn y gwaed ar y pwynt gofal i ddiagnosio a rheoli hypoglycemia mewn babanod newydd-anedig.

 

Ar sail y dystiolaeth a nodwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei arfarnu.