Systemau rhagnodi electronig a gweinyddu meddyginiaethaus

Statws Testun Cyflawn

Systemau rhagnodi electronig a gweinyddu meddyginiaethau ar gyfer yr holl gleifion mewnol ac allanol sy’n derbyn gofal eilaidd, gan gynnwys adrannau pediatrig

Crynodeb

 

Bu ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru yn chwilio am dystiolaeth o ran effeithiolrwydd systemau rhagnodi electronig a gweinyddu meddyginiaethau ar gyfer pob lleoliad sy’n darparu gofal eilaidd i gleifion mewnol ac allanol, gan gynnwys gwasanaethau pediatrig, ac ar y dyluniad gorau ar gyfer systemau rhagnodi electronig a gweinyddu meddyginiaethau. Penderfynodd Grŵp Asesu HTW i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen oherwydd yr ystod eang o systemau posibl, ac oherwydd y ffaith nad oes llawer o dystiolaeth ar gael y canlyniadau uniongyrchol i gleifion.

Mae ein dogfennau cyngor yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ond buasem yn ddiolchgar pe gallech ein helpu i wella ein gwasanaethau drwy ddweud wrthym pam eich bod chi’n edrych ar ein cyngor.

Hepgor y ffurflen a lawrlwytho ffeil Cau

    Efallai yr hoffem gysylltu â chi trwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch ddefnyddio'r dogfennau.