Therapi ail-drwytho treulfwyd

Statws Testun Anghyflawn

Therapi ail-drwytho treulfwyd ar gyfer methiant perfeddol math 2 ar ôl cael llawdriniaeth ar gyfer canser y coluddyn

Arbenigeddau:  System dreulio

Crynodeb

 

Methiant perfeddol math 2 yw pan fydd swyddogaeth y coluddyn yn cael ei leihau islaw’r isafswm sy’n angenrheidiol ar gyfer amsugno macrofaethynnau, dŵr ac electrolytau, a bod angen atchwanegiadau mewnwythiennol i gynnal iechyd a/neu dwf am gyfnod o wythnosau neu fisoedd. Mae therapi ail-drwytho treulfwyd yn cynnwys pwmpio treulfwyd (cynnyrch y system dreulio sydd yn cael ei gasglu mewn bag stoma neu ffistwla) o’r coluddyn uchaf i’r coluddyn isaf. Mae hyn wedyn yn caniatáu i hylif, halwynau a maetholion gael eu hamsugno yn y coluddyn isaf sy’n lleihau’r risg o ddadhydradu a diffyg maeth.

 

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio therapi ail-drwytho treulfwyd ar gyfer methiant perfeddol math 2 ar ôl cael llawdriniaeth ar y coluddyn.

 

Ar sail y dystiolaeth a nodwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i symud y pwnc hwn ymlaen i gynnal Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth arno.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER638 02.2026