Tynnu lluniau o’r corff cyfan

Statws Testun Cyflawn

Tynnu lluniau o’r corff cyfan yn defnyddio systemau delweddu â chymorth Deallusrwydd Artiffisial (AI) i ddarganfod melanoma y croen mewn gofal eilaidd

Crynodeb

 

Mae tynnu lluniau o’r corff cyfan yn defnyddio systemau delweddu meddygol yn dechnoleg anfewnwthiol, sydd yn gallu helpu clinigwyr i ddiagnosio annormaleddau’r croen a melanoma. Mae rhai technolegau’n gwneud hyn gan ddefnyddio delweddu uwch â chymorth AI.

Chwiliodd ymchwilwyr HTW am dystiolaeth ar ddefnyddio systemau tynnu lluniau o’r corff cyfan i adnabod melanoma y croen. Daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad na ddylid bwrw ymlaen â’r pwnc hwn ymhellach, oherwydd bod tystiolaeth o’i effeithiolrwydd yn dal i gael ei chynhyrchu.