Ymyriadau digidol ar gyfer clefyd cronig yr arennau
Statws Testun Cyflawn
Ymyriadau adsefydlu a hunanreoli digidol ar gyfer pobl â chlefyd cronig yr arennau.
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu fel mater o drefn Kidney BEAM, sef ymyrraeth adsefydlu a hunanreoli digidol ar gyfer pobl â chlefyd cronig yr arennau (CKD).
Dangosodd tystiolaeth a gymharodd Kidney BEAM â rheolaeth rhestr aros welliannau mewn ansawdd bywyd, gwybodaeth, sgiliau a hyder pobl yn ymwneud â rheoli iechyd a gofal iechyd, a gweithrediad corfforol. Canfu dadansoddiad cost-effeithiolrwydd cyhoeddedig fod Kidney BEAM yn ymyrraeth gost-effeithiol o’i gymharu â rheolaeth rhestr aros.
Dylid ystyried Kidney BEAM fel offeryn ychwanegol y gellir ei gyflwyno ochr yn ochr ag unrhyw raglenni a gynigir ar hyn o bryd yng Nghymru.
Mae ymyriadau adsefydlu a hunanreoli digidol eraill ar gael i bobl â CKD ond nid oedd digon o dystiolaeth i ddangos eu heffaith glinigol a chost-effeithiolrwydd.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae clefyd cronig yr arennau (CKD) yn effeithio ar ychydig dan 100,000 o bobl yng Nghymru. Gall waethygu dros amser ac efallai y bydd angen dialysis a/neu drawsblaniad aren ar bobl â CKD difrifol. Mae gwelliannau mewn diet a mwy o ymarfer corff yn fuddiol wrth reoli cyflyrau iechyd hirdymor megis CKD a gallant wella ffactorau risg sy’n gysylltiedig â datblygiad y clefyd. Ar hyn o bryd, yng Nghymru, mae safon y gofal yn amrywio a gall cael mynediad at adsefydlu neu gefnogaeth/addysg rheolaidd a ddarperir gan ymarferwyr gofal iechyd fod yn gyfyngedig. Felly, gall ymyriadau adsefydlu a hunanreoli digidol, megis gwefannau neu apiau, sy’n addysgu cleifion ac yn darparu dulliau adsefydlu ac offer iddynt i’w helpu i wella eu ffordd o fyw a deall a rheoli clefyd cronig yr arennau yn well fod o fudd. Cyflwynwyd y pwnc hwn gan Athro Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff mewn Prifysgol yn y DU, sydd hefyd yn arwain rhaglen adsefydlu ymarfer corff clefyd yr arennau mewn Bwrdd Iechyd y GIG.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae clefyd cronig yr arennau (CKD) yn gyflwr hirdymor lle nad yw’r arennau’n gweithio cystal ag y dylent. Gall effeithio ar unrhyw un ond fel arfer mae’n gysylltiedig â heneiddio. Dim ond ar ôl i’r cyflwr fynd yn fwy datblygedig y mae pobl â CKD yn profi symptomau. Gall y symptomau hyn gynnwys blinder; migyrnau/fferau, traed neu ddwylo chwyddedig; prinder anadl; teimlo’n sâl; a gwaed yn yr wrin. Yn y pen draw, gall yr arennau roi’r gorau i weithio’n gyfan gwbl. Fodd bynnag, gall y rhan fwyaf o bobl â CKD fyw bywydau hir.
Mae bod â ffordd o fyw iach yn bwysig ar gyfer byw’n dda pan fydd gennych CKD. Mae ymarfer corff rheolaidd, fel cerdded, yn arbennig o bwysig gan y dangoswyd bod diffyg gweithgarwch corfforol yn gwaethygu’r cyflwr. Gellir cefnogi pobl â CKD i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a gwneud dewisiadau bywyd iach trwy gael mynediad at gefnogaeth ar blatfformau digidol, megis gwefannau.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar gyfer ymyriadau adsefydlu a hunanreoli digidol ar gyfer CKD. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu Kidney BEAM, ymyrraeth adsefydlu a hunanreoli digidol ar gyfer pobl â chlefyd cronig yr arennau, fel mater o drefn.
Canllaw
GUI070 07.20205
Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR070 07.2025
Adroddiad Archwilio Pwnc
(superseded by EAR070 07.2025)