Y tîm yn ffarwelio â’r Cadeirydd a chwaraeodd rôl hanfodol yn natblygiad HTW
Hoffem achub ar y cyfle hwn i estyn ein diolch i’r Athro Peter Groves, y mae ei gyfnod fel Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru yn anffodus, wedi dod i ben.
Penodwyd yr Athro Groves yn Gadeirydd HTW yn 2018 ac yn 2021, estynnwyd ei dymor fel Cadeirydd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, Eluned Morgan AS.
O dan ei ddeiliadaeth, mae’r sefydliad wedi dod yn gorff asesu technolegau iechyd (HTA) sy’n cael ei barchu’n rhyngwladol, sy’n gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ar draws y DU ac ar draws y byd.
Ers ei sefydlu yn 2017, mae HTW wedi cyhoeddi mwy na 40 darn o ganllawiau cenedlaethol ar dechnolegau iechyd a gofal anfeddygol. Mae’n chwarae rhan allweddol mewn darganfod technolegau a allai fynd i’r afael â blaenoriaethau iechyd Llywodraeth Cymru, ac mae ar flaen y gad o ran datblygu dulliau arfarnu ar gyfer technolegau iechyd sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI).
Mae profiad helaeth yr Athro Groves fel Cardiolegydd Ymgynghorol ac mewn defnyddio technoleg feddygol wedi ei alluogi i fod yn sbardun y tu ôl i ddatblygu’r sefydliad, a bydd ei wybodaeth o asesu technoleg iechyd yn cael ei cholli’n fawr.
Wrth siarad am ei brofiad fel Cadeirydd HTW, dywedodd Peter Groves:
“Mae wedi bod yn fraint fawr cael bod yn rhan o daith HTW, o fod yn gorff Asesu Technoleg Iechyd newydd i fod yn sefydliad y mae ei waith yn parhau i gael effaith fawr ar fywydau pobl yng Nghymru.
“Mae darganfod technolegau iechyd arloesol yn allweddol i ddatrys rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu darparwyr gofal iechyd yng Nghymru. Yn y cyfamser, mae dull cadarn HTW o arfarnu’r technolegau hyn yn seiliedig ar dystiolaeth yn bwysicach nag erioed, wrth i’r sector barhau i esblygu’n gyflym.
“Hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr yn HTW a’n partneriaid ar draws y sectorau iechyd a gofal am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u cefnogaeth i’r sefydliad ers ei sefydlu. Dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol”
Ychwanegodd Susan Myles, Cyfarwyddwr HTW:
“Mae Peter wedi chwarae rhan ganolog mewn datblygu HTW fel sefydliad, gan roi mewnbwn amhrisiadwy i’r broses arfarnu, yn sgil ei brofiad clinigol helaeth a’i arbenigedd mewn technolegau meddygol.
“Bydd colled fawr ar ei ôl fel Cadeirydd HTW, a hoffem ddymuno’r gorau iddo yn ei holl ymdrechion yn y dyfodol.”
Yn ogystal â bod yn Gadeirydd HTW, mae’r Athro Groves yn Gadeirydd Panel Apêl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) hefyd, ac yn gyn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Arbenigol Dyfeisiau’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), a Phwyllgor Cynghori Technolegau Meddygol NICE.
Mae Cadeirydd HTW, yr Athro Peter Groves, wedi derbyn Cymrodoriaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i gydnabod ei gyfraniadau eithriadol i feddygaeth a dysgu yng Nghymru.