Newyddion

18 Gorffennaf, 2024

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar Floseal i drin epistaxis

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw cenedlaethol newydd ar ddefnyddio matrics gwaedataliol gelatin-thrombin Floseal i drin gwaedlifau trwyn acíwt.

Yn ôl canllaw HTW, mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu Floseal fel mater o drefn i drin gwaedlifau o’r trwyn – ‘epistacsis’ mewn termau meddygol.

Gall gwaedlif o’r trwyn fod angen triniaeth frys mewn ysbyty, a allai gynnwys pacio’r trwyn.  Mae hyn fel arfer yn golygu y byddai’n rhaid i’r claf gael ei dderbyn i’r ysbyty i gael ei arsylwi ac i gael y deunydd pacio wedi’i dynnu gan glinigydd, a allai arwain at ail-waedu.

Mae Floseal yn frand o ddeunydd pacio’r trwyn sy’n doddadwy, felly nid oes angen ei arsylwi na’i dynnu. Mae hyn yn golygu na fyddai angen i glaf gael ei dderbyn i’r ysbyty.

Mae canllaw HTW yn nodi bod Floseal yn gysylltiedig â llai o boen, gwell boddhad cleifion yn ystod triniaeth, a gall leihau y gyfradd ail-waedu gyffredinol.

Cliciwch yma i ddarllen y canllaw yn llawn.