Profion gwaed sbectrosgopi Raman

Statws Testun Ar y gweill

Prawf gwaed sbectrosgopi Raman gyda dysgu peirianyddol i ganfod canser y colon a'r rhefr

Arbenigeddau:  Canser

Crynodeb

 

Mae sbectrosgopi Raman yn mesur proteinau, asidau niwclëig, a lipidau mewn serwm i gynhyrchu ‘ôl bys biocemegol’, a thrwy ddefnyddio algorithm AI, mae pobl yn  cael eu categoreiddio yn ôl tebygolrwydd uchel neu isel o gael canser y colon a’r rhefr.

Mae gan y dechnoleg hon y potensial i helpu clinigwyr i ganfod a blaenoriaethu cleifion sydd â symptomau gastroberfeddol isaf i gael rhagor o brofion.

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar berfformio profion gwaed yn defnyddio sbectrosgopi Raman gyda dysgu peirianyddol, gan gynnwys CanSense, i ganfod a brysbennu canser y colon a’r rhefr.

Ar sail y dystiolaeth a nodwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei arfarnu

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER584 05.2025