Newyddion

27 Hydref, 2025

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar ymyriadau digidol ar gyfer clefyd cronig yr arennau

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw cenedlaethol yn argymell defnyddio Kidney BEAM yn rheolaidd, sef adnodd digidol i gefnogi pobl sy’n byw gyda chlefyd cronig yn yr arennau (CKD) yng Nghymru.

 

Mae CKD yn effeithio ar ychydig o dan 100,000 o bobl yng Nghymru.

Mae gwneud newidiadau i ffordd o fyw, fel gwneud mwy o ymarfer corff a bwyta deiet gwell, yn gallu bod o fudd wrth helpu i reoli’r cyflwr, ac yn gwella’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â CKD.

Gall ymyriadau adsefydlu digidol a hunanreoli fel gwefannau ac apiau helpu i addysgu cleifion am eu cyflwr, a darparu adnoddau i’w helpu i wella eu ffordd o fyw.

 

Yn ôl canllaw HTW, mae Kidney BEAM yn gwella ansawdd bywyd pobl, ac yn cynyddu eu hyder wrth reoli eu cyflwr.

Fe wnaeth y canllaw ddarganfod hefyd, bod y dechnoleg yn gost-effeithiol ac y dylid ei defnyddio fel adnodd ychwanegol ochr yn ochr ag unrhyw raglenni eraill sydd yn cael eu cynnig yng Nghymru ar hyn o bryd.

I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma.