Cynllun Cyhoeddi
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), mae’n ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus fabwysiadu a chynnal Cynllun Cyhoeddi. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhagweithiol i’r cyhoedd.
Mae’r Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol a’r Ddogfen Diffiniad ar gyfer Cyrff Iechyd yng Nghymru a gynhyrchwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth, yn diffinio saith dosbarth eang o wybodaeth fel y nodir isod.
Sylwch, gan fod Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (VUNHST) yn lletya HTW, mai dim ond trwy ymweld â gwefan VUNHST y gellir cael peth o’r wybodaeth ac rydym wedi cynnwys y dolenni i’r wybodaeth hon lle bo’n berthnasol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am lywodraethu, polisïau, rhestrau a chofrestrau’r Ymddiriedolaeth.