Technoleg Iechyd Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2023/24

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24.
Yn ystod 2023/24, cyhoeddwyd 11 darn newydd o ganllawiau cenedlaethol gennym ar bynciau yn amrywio o lensys cyffwrdd ar gyfer rheoli myopia i ddiffibrilwyr cardiaidd y gellir eu gwisgo.. Roedd hefyd yn cynnwys dau ddarn o ganllaw gofal cymdeithasol oedd yn trafod Rhaglenni Dwys i Gadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd ac Ymyriadau drwy Adborth Fideo.
Drwy gydol y cyfnod hwn, rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion ar gefnogi’r gwaith o gyflawni chwe blaenoriaeth iechyd a gofal gweinidogol Llywodraeth Cymru. O ganlyniad, rydym wedi datblygu ein prosesau adnabod pynciau ac wedi chwilio am bynciau sydd wedi cael eu hadolygu gan sefydliadau HTA yn rhyngwladol sy’n mynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn.
Yn y cyfamser, rydym wedi parhau i ymgysylltu â phartneriaid ar draws y DU ac yn rhyngwladol gan gynnwys fel partner i’r rhaglen Llwybr Mynediad at Ddyfeisiau Arloesol (IDAP), sy’n ceisio dod â thechnolegau meddygol trawsnewidiol i’r farchnad cyn gynted â phosibl.
Rydym hefyd wedi parhau â’n gwaith fel Partner Cydweithredol i Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynnal adolygiadau cyflym, gyda’r nod o ddarparu’r ymchwil mwyaf diweddar i gefnogi penderfyniadau iechyd a gofal yng Nghymru.
Dangosodd ein hadroddiad archwilio mabwysiadu diweddaraf fod lefel uchel o ymwybyddiaeth o ganllawiau HTW yn GIG Cymru, a bod ein canllawiau yn cael effaith sylweddol ar wneud penderfyniadau. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’n partneriaid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, i sicrhau ein bod yn arfarnu ac yn cyhoeddi canllawiau cenedlaethol ar effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd technolegau iechyd a gofal, y disgwylir iddynt gael yr effaith fwyaf ar Gymru
Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol Technoleg Iechyd Cymru 2023/24.