Dresinau clwyfau sy’n cynhyrchu ocsid nitrig
Statws Testun Cyflawn
Dresinau clwyfau sy'n cynhyrchu ocsid nitrig ar gyfer wlserau traed mewn pobl â diabetes.
Crynodeb
Mae wlserau traed mewn pobl â diabetes yn gymhlethdodau diabetes cronig, sy’n anodd eu gwella, gyda chanlyniadau clinigol gwael yn gyffredinol. Mae pobl â diabetes yn cynhyrchu llai o ocsid nitrig, sydd yn gallu amharu ar iachâd clwyfau.
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio dresinau clwyfau sy’n cynhyrchu ocsid nitrig i drin wlserau traed mewn pobl â diabetes.
Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ganfuwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i’r cam arfarnu tystiolaeth.