Dyfais monitro glwcos fflach Freestyle Libre ar gyfer rheoli diabetes [Technoleg ddim yn cael ei chynhyrchu mwyach]
Statws Testun Wedi'i dynnu’n ôl
Peiriant monitro glwcos fflach FreeStyle Libre ar gyfer rheoli diabetes
Arbenigeddau: Endocrinaidd, maethol a metabolaidd
Mae’r canllaw hwn wedi cael ei dynnu’n ôl oherwydd bod Freestyle Libre 2 wedi cael ei ddatbarhau ym mis Awst 2025. Ar yr adeg tynnu’n ôl, nid oedd unrhyw ddyfeisiau ar gael yn y DU ar gyfer monitro glwcos yn barhaus (fflach) yn ysbeidiol.
Mae HTW wedi ymateb i gais i gynnal adolygiad tystiolaeth newydd i arfarnu’r dystiolaeth glinigol a’r effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio dyfais monitro glwcos yn barhaus mewn pobl sydd yn byw gyda diabetes ac sydd yn cael eu trin gyda phigiadau inswlin sylfaenol bob dydd.
Rydym hefyd wedi cynhyrchu adroddiadau ar fonitro glwcos yn barhaus mewn amser real.
Mae adroddiad archwilio pwnc (TER) newydd wedi cael ei baratoi i helpu Grŵp Asesu HTW (20.08.26) i benderfynu ynghylch a ddylid derbyn hyn ar raglen waith HTW a chynhyrchu adolygiad tystiolaeth a chanllaw newydd ar gyfer GIG Cymru. Os bydd y pwnc hwn yn cael ei dderbyn ar raglen waith HTW, disgwylir y bydd Canllaw ar gael yn nhymor y gwanwyn/haf 2027.
Mae HTW wedi cael ei gynghori o’r canlynol: Barn glinigol yr Arweinwyr Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yw ‘…y dylid parhau i ddilyn argymhellion y canllaw gwreiddiol nes eu bod yn cael eu disodli gan argymhellion newydd.’ (Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru, Nyrs Arweiniol Glinigol Genedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru, Arweinwyr Byrddau Iechyd ar gyfer Diabetes ar draws Cymru, Arweinydd Ymchwil Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru).